Fersiwn Cymraeg
Mae Comisiwn y Senedd (y Senedd) wedi partneru â’r Windsor Fellowship i lansio rhaglen brentisiaeth newydd, gan gynnig pedwar cyfle i unigolion o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig.
Mae’r Senedd wedi ymrwymo i ddenu talent o amrywiaeth eang o gefndiroedd ac yn cydnabod gwerth adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth Cymru.
Mae’r rhaglen brentisiaeth yn ffordd wych o gael profiad gwaith â thâl mewn amgylchedd unigryw a chyffrous yng nghanol democratiaeth Cymru.
Ynglŷn â’r Brentisiaeth
Rydym yn cynnig prentisiaeth hyfforddi â thâl am 12 mis i bedwar o raddedigion o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig. Gallwch ddewis gwneud cais am leoliadau mewn sawl maes ar draws y sefydliad.
Er nad yw’r brentisiaeth yn cynnig nac yn gwarantu swydd barhaol ar ddiwedd y cyfnod o 12 mis, y nod yw eich helpu i ddatblygu’r sgiliau a chael y profiad sydd eu hangen ar gyfer rôl gyda Chomisiwn y Senedd neu swydd mewn man arall.
Bydd hyfforddi yn y Senedd yn eich rhoi yng nghanol gwleidyddiaeth Cymru, gan ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth ar sut i lywio a chefnogi gweithle prysur a chyffrous lle mae cyfreithiau Cymru yn cael eu gwneud. Mae’r Brentisiaeth yn gyfle rhagorol sydd wedi’i chynllunio i roi’r ddealltwriaeth a’r gallu i chi ddatblygu o fewn sefydliad amrywiol a chynhwysol.
Eich Datblygiad
- Cefnogaeth gan Windsor Fellowship – bydd ein partneriaid, y Windsor Fellowship, yn darparu cefnogaeth bugeiliol a chefnogaeth gyda chyfweliadau o’r pwynt ymgeisio.
- Mentora – manteisiwch ar hyfforddiant, mentora ac arweiniad parhaus gan weithwyr profiadol y Senedd.
- Datblygu sgiliau – tyfwch sgiliau technegol, proffesiynol ac arweinyddiaeth allweddol drwy gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
- Datblygiad gyrfa – cewch brofiad o weithgareddau twf gyrfa i’ch helpu i baratoi ar gyfer gyrfa ar ôl graddio.
Pwy all wneud cais?
I fod yn gymwys ar gyfer y brentisiaeth, rhaid i chi fodloni’r meini prawf canlynol:
▪ Mae gennych hawl i weithio yn y DU heb gyfyngiadau. Sylwer nad yw’r Senedd yn noddi fisa gwaith
▪ Rydych yn byw yng Nghymru
▪ Rydych o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig
▪ Rydych wedi byw yn y DU neu Iwerddon am o leiaf dair blynedd (mae hyn yn ofyniad ar gyfer Gwiriad Diogelwch Cenedlaethol)
▪ Rydych yn raddedig o’r brifysgol erbyn dechrau’r cynllun
▪ Rydych ar gael i gymryd rhan yn y Brentisiaeth o Ionawr 2025 tan Rhagfyr 2025
Rolau a Disgrifiadau Swydd
Darllenwch y manylebau’n llawn a sicrhewch fod eich cais yn mynd i’r afael â’r sgiliau sy’n ofynnol.
Sut i wneud cais?
Y Broses Ymgeisio:
Ceisiadau ar-lein yn agor: |
23 Medi 2024 |
Sesiynau gwybodaeth rithiol: |
08 Hydref 2024 |
Dyddiad cau ceisiadau: |
04 Tachwedd 2024 |
Canolfan Asesu Windsor Fellowship (rhithiol): |
11-27 Tachwedd 2024 |
Cyfweliad Senedd (rhithiol): |
Wythnos yn dechrau 10 Rhagfyr 2024 |
Canlyniad: |
18 Rhagfyr 2024 |
Gwiriad diogelwch a phroses ymuno: |
Rhagfyr – Ionawr 2024 |
Dyddiad dechrau amcangyfrifedig y Brentisiaeth: |
13 Ionawr 2025 |
Mae ceisiadau wedi cau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhaglen, cysylltwch â: internships@windsor-fellowship.org