Ymlaen: Interniaeth y Senedd i raddedigion o Gefndir Du, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol

Fersiwn Cymraeg 

Mae Comisiwn y Senedd (y Senedd) wedi partneru â’r Windsor Fellowship i lansio rhaglen brentisiaeth newydd, gan gynnig pedwar cyfle i unigolion o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig.

Mae’r Senedd wedi ymrwymo i ddenu talent o amrywiaeth eang o gefndiroedd ac yn cydnabod gwerth adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth Cymru.

Mae’r rhaglen brentisiaeth yn ffordd wych o gael profiad gwaith â thâl mewn amgylchedd unigryw a chyffrous yng nghanol democratiaeth Cymru.

Ynglŷn â’r Brentisiaeth

Rydym yn cynnig prentisiaeth hyfforddi â thâl am 12 mis i bedwar o raddedigion o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig. Gallwch ddewis gwneud cais am leoliadau mewn sawl maes ar draws y sefydliad.

Er nad yw’r brentisiaeth yn cynnig nac yn gwarantu swydd barhaol ar ddiwedd y cyfnod o 12 mis, y nod yw eich helpu i ddatblygu’r sgiliau a chael y profiad sydd eu hangen ar gyfer rôl gyda Chomisiwn y Senedd neu swydd mewn man arall.

Bydd hyfforddi yn y Senedd yn eich rhoi yng nghanol gwleidyddiaeth Cymru, gan ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth ar sut i lywio a chefnogi gweithle prysur a chyffrous lle mae cyfreithiau Cymru yn cael eu gwneud. Mae’r Brentisiaeth yn gyfle rhagorol sydd wedi’i chynllunio i roi’r ddealltwriaeth a’r gallu i chi ddatblygu o fewn sefydliad amrywiol a chynhwysol.

Eich Datblygiad

  • Cefnogaeth gan Windsor Fellowship – bydd ein partneriaid, y Windsor Fellowship, yn darparu cefnogaeth bugeiliol a chefnogaeth gyda chyfweliadau o’r pwynt ymgeisio.
  • Mentora – manteisiwch ar hyfforddiant, mentora ac arweiniad parhaus gan weithwyr profiadol y Senedd.
  • Datblygu sgiliau – tyfwch sgiliau technegol, proffesiynol ac arweinyddiaeth allweddol drwy gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
  • Datblygiad gyrfa – cewch brofiad o weithgareddau twf gyrfa i’ch helpu i baratoi ar gyfer gyrfa ar ôl graddio.

Pwy all wneud cais?

I fod yn gymwys ar gyfer y brentisiaeth, rhaid i chi fodloni’r meini prawf canlynol:

▪ Mae gennych hawl i weithio yn y DU heb gyfyngiadau. Sylwer nad yw’r Senedd yn noddi fisa gwaith
▪ Rydych yn byw yng Nghymru
▪ Rydych o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig
▪ Rydych wedi byw yn y DU neu Iwerddon am o leiaf dair blynedd (mae hyn yn ofyniad ar gyfer Gwiriad Diogelwch Cenedlaethol)
▪ Rydych yn raddedig o’r brifysgol erbyn dechrau’r cynllun
▪ Rydych ar gael i gymryd rhan yn y Brentisiaeth o Ionawr 2025 tan Rhagfyr 2025

Rolau a Disgrifiadau Swydd

Darllenwch y manylebau’n llawn a sicrhewch fod eich cais yn mynd i’r afael â’r sgiliau sy’n ofynnol.

Cwestiynau Cyffredin

Sut i wneud cais?

Y Broses Ymgeisio:

Ceisiadau ar-lein yn agor: 23 Medi 2024
Sesiynau gwybodaeth rithiol: 08 Hydref 2024
Dyddiad cau ceisiadau: 04 Tachwedd 2024
Canolfan Asesu Windsor Fellowship (rhithiol):  

11-27 Tachwedd 2024

Cyfweliad Senedd (rhithiol): Wythnos yn dechrau 10 Rhagfyr 2024
Canlyniad: 18 Rhagfyr 2024
Gwiriad diogelwch a phroses ymuno: Rhagfyr – Ionawr 2024
Dyddiad dechrau amcangyfrifedig y Brentisiaeth: 13 Ionawr 2025

 

Mae ceisiadau wedi cau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhaglen, cysylltwch â: internships@windsor-fellowship.org

Sesiwn wybodaeth rithwir – dydd Mawrth 8 Hydref 2024 rhwng 6pm a 7pm   

Bydd y sesiwn mewnwelediad hon yn cael ei chynnal i godi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu â chymunedau am Ymlaen – rhaglen Interniaeth y Senedd. Bydd y sesiwn yn caniatáu i gyfranogwyr ddarganfod mwy am y rhaglen a gweithio yn y Senedd.

Gallwch gofrestru ar gyfer sesiwn Mewnwelediad – 8 Hydref 2024